Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Presiding Officer’s office, 4th floor - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 16 Medi 2014 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 09.00 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt (yn lle Lesley Griffiths) Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Craig Stephenson Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Lesley Griffiths a dirprwyodd Jane Hutt, y Gweinidog newydd dros Fusnes y Llywodraeth, ar ei rhan.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad yn cael eu cyflwyno wythnos ynghynt, set 1 Hydref, a bob pedair wythnos wedi hynny. Diben hyn yw creu gwell cydbwysedd o ran busnes o ystyried yr amserlen newydd ar gyfer Cwestiynau Llafar y Cynulliad, sy'n cynnwys cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol yn ystod yr wythnos honno.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 8 Hydref 2014
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar arfer gorau mewn prosesau cyllidebol (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau orthodontig yng Nghymru.
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Bil Cynllunio Drafft (Cymru):
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Cynllunio (Cymru) at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn gohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil tan yr wythnos nesaf i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor.
4.2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Menter a Busnes er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn 16 Hydref 2014 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 21 Hydref 2014.
5 Y Rheolau Sefydlog
5.1 Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad
Trafododd a chymeradwyodd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft ar ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Deddfau'r Cynulliad.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried gan y Cynulliad ddydd Mercher 24 Medi 2014.
Unrhyw Fater Arall
Trafododd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cwestiynau'r llefarwyr, a dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd disgwyl i'r llefarwyr aros yn eu seddi rhwng y cwestiynau.